Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
23 Mehefin 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod aelodau o’r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
NDM7727 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 23 Mehefin 2021.
Cynigion o dan Reolau Sefydlog 16.1 ac 16.3 i gytuno teitlau a chylchoedd gorchwyl Pwyllgorau
NDM7729 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno y caiff y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro, a sefydlwyd ar 26 Mai 2021, ei ailenwi y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd Deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder, a materion allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) newidiadau i’r setliad datganoli, a chysylltiadau rhynglywodraethol.
NDM7731 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013; O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.
NDM7732 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall y pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
NDM7733 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
NDM7734 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
NDM7735 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, sgiliau, masnach, ymchwil a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth), a materion gwledig.
NDM7736 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol , cymunedau, a thai.
NDM7737 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith. Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol; a gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
NDM7738 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni; cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd.
NDM7739 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol. Gall y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg.
NDM7740 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.
NDM7741 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 23.
Dogfennau Ategol
Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid
NDM7728 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
(i) Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
(ii) Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ceidwadwyr Cymreig;
(iii) Y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig;
(iv) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;;
(v) Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;
(vi) Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;
(vii) Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;
(viii) Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
(ix) Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
(x) Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur;
(xi) Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;
(xii) Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.
Cynnig i benodi Comisiwn y Senedd
NDM7730 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Ken Skates (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), yn aelodau o Gomisiwn y Senedd.
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws
(60 munud)
NDM7704 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.
3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.
4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:
a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;
b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;
c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a
d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.
Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021
Cyd-gyflwynwyr
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
(60 munud)
NDM7716 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu y dylid parchu canlyniadau refferenda bob amser.
3. Yn cydnabod bod nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin;
2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.
3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.
Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
7 Cyfnod pleidleisio
8 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7710 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bargen deg i weithwyr.
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7717 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Dileu'r clafr yng Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r clafr yng Nghymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2021